Seland Newydd 36-22 Cymru
- Cyhoeddwyd

Seland Newydd 36-22 Cymru
Mae'r Crysau Duon wedi trechu Cymru unwaith eto yn Seland Newydd.
Fe gafodd Cymru ddechrau addawol, gan roi'r tim cartref o dan bwysau am gyfnodau.
Ond yn yr ail hanner fe ddangosodd Seland Newydd eu grym a'u cyflymdra.
Roedd hi'n gyfartal 10-10 ar yr egwyl, a hynny ar ôl i Alun Wyn Jones sgorio cais i Gymru eiliadau cyn y chwiban.
Yn gynharach fe aeth y Crysau Duon ar y blaen wrth i Israel Dagg ddathlu ei 50fed cap gyda chais.
Yn ystod munudau cyntaf yr ail hanner sgoriodd Seland Newydd dau gais mewn dwy funud - Ben Smith yn croesi ar yr asgell dde cyn i Beauden Barrett sgorio o dan y pyst.
Roedd Cymru yn wynebu ton ar ol ton o ymosodiadau, a daeth sawl ergyd arall i dim Warren Gatland wrth i Naholo a Savea ychwanegu cais yr un.
Yn ystod y deg munud olaf fe redodd Liam Williams, ac yna Jonathan Davies, y tu hwnt i'r amddiffyn i sicrhau dau gais hwyr i'r Cymry.
Rhywfaint o gysur, efallai, ar ol canlyniad siomedig arall yn erbyn pencampwyr y byd.
Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland: "Roedd gennym y dewrder i gario malen - a pheidio rhoi'r gorau iddi.
"Roedd 'da ni 58% o'r diriogaeth heno, ac mae hynny yn ffigwr enfawr i ni yn erbyn y Crysau Duon - ni heb wneud hynny o'r blaen."

Jonathan Davies yn sgorio cais hwyr