Cymru ar y ffordd i Baris
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Euro 2016 wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Rwsia.
Cymru oedd y tîm cryfaf o'r dechrau, gyda'r gôl gyntaf yn dod i Aaron Ramsey wedi pymtheg munud, gôl rhif 11 iddo dros Gymru.
Fe ddaeth yr ail i Neil Taylor wrth iddo dorri'n rhydd ar yr asgell chwith.
Lwyddodd y gôl-geidwad i atal ei ymgais gyntaf, ond nid yr ail ergyd. Dyma ei gôl gyntaf i'w wlad.
Er i chwaraewyr Rwsia fygwth cyn diwedd yr hanner cyntaf fe roedd amddiffyn Cymru yn gadarn.
Yn yr ail hanner daeth sawl eilydd ymlaen i Rwsia ond fe fethodd hynny a gwneud ddim gwahaniaeth i'r sgôr.
Gareth Bale gafodd y drydedd gôl a hynny ar ôl iddo fod yn pwyso am beth amser, ar ôl pas daclus gan Ramsey.
Gêm gyfartal ddi-sgor gafodd Lloegr yn erbyn Slofacia sydd yn golygu bod Cymru ar frig y grŵp.
Ym Mharis fydd y gêm nesaf ddydd Sadwrn. Eu gwerthwynebwyr fydd tîm yn y drydedd safle yng ngrŵp grwp A, C neu D.
