Agor cwest i farwolaeth dyn ym Mwnt
- Cyhoeddwyd

Cafodd cwest ei agor i farwolaeth dyn o ogledd Lloegr, fu farw wedi i gar ddisgyn dros glogwyn ar arfordir Ceredigion.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Mwnt ger Aberteifi nos Wener 17 Mehefin, wedi adroddiadau fod car wedi disgyn tua 100 troedfedd.
Yno, daeth swyddogion o hyd i gorff dyn.
Ddydd Llun 20 Mehefin, agorodd crwner Ceredigion, Mr PL Brunton y cwest i farwolaeth Gary Christopher Chilton, oedd yn 42 oed ac yn dod o Fanceinion.
Mae'r cwest wedi ei ohorio am y tro.