Criced: Morgannwg v Caint
- Cyhoeddwyd

Adam Rouse yn chwarae i Gaint
Mae gan Forgannwg fantais o 91 rhediad yn erbyn Caint ar ddiwedd trydydd diwrnod y chwarae yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, er bod yr ymwelwyr wedi brwydro'n ôl wedi dechrau siomedig.
Ar un cyfnod roedd Caint yn 85-5 cyn ymladd i sicrhau 282 o rediadau.
Timm van der Gugten oedd yn gyfrifol am lwyddiant Morgannwg gan sicrhau record orau iddo'i hun yn y bencampwriaeth hon - 5-79.
Llwyddodd y bowliwr cyflym o Awstralia Michael Hogan i sicrhau ei 200fed wiced dros Forgannwg mewn tri thymor a hanner, gan ildio dim ond 24 o rediadau mewn 24 pelawd.