Tour de France: Dau Gymro yn nhîm Sky
- Cyhoeddwyd

Geraint Thomas yn nhîm Sky ar gyfer Tour de France 2016
Mae Geraint Thomas a Luke Rowe wedi'u dewis i garfan Sky ar gyfer ras y Tour de France fis nesaf.
Fe fyddan nhw'n cefnogi Chris Froome, 31 oed, sy'n arwain y garfan naw dyn. Bydd e'n ceisio ennill y ras am y drydedd tro mewn pedair mlynedd.
Cyhoeddodd Sir Dave Brailsford rheolwr Team Sky y garfan ddydd Mercher.
Penodwyd Luke Rowe yn gapten yr heol.
Mae'r Grand Depart yn gadael Mont San Michel yn Normandi ar 2 Orffennaf.
Carfan Team Sky Tour de France 2016 yn llawn: Chris Froome, Sergio Henao, Vasil Kiriyenka, Mikel Landa, Mikel Nieve, Wout Poels, Luke Rowe, Ian Stannard, Geraint Thomas.