Teyrnged Chris Boardman i'w fam wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Chris Boardman drydar y llun hwn a theyrnged i'w fam Carol
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Carol Boardman, mam i'r cyn seiclwr Olympaidd, Chris Boardman, fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gael eu galw i gylchdro yng Nghei Connah am 13:54 ar ôl gwrthdrawiad rhwng fan Mitsubishi a Mrs Boardman oedd ar feic.
Aed â hi i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol lle bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchdro yng Nghei Connah
Mae ei theulu wedi rhyddhau'r teyrnged canlynol: "Yn oriau mân ddydd Sul, bu farw ein mam Carol Boardman o anafiadau ar ôl gwrthdrawiad gyda char tra ar ei beic yng ngogledd Cymru.
"Roedd ein mam y person mwyaf positif y gallwch fyth gwrdd â hi, ac yn ysbrydoliaeth i bawb oedd yn cwrdd â hi", meddai'r datganaid.
"Roedd hi am rannu ei chariad am seiclo gyda phobl, a hyd yn oed yn ei 70au byddai'n aml yn teithio gyda grwpaiu o bobl ifanc i ogledd Cymru."
Dywedodd Chris Boardman bod ei fam, oedd yn byw yng Nghilgwri, yn rhan o deulu mawr a chariadus.
"Mae'n anodd i ni allu meddwl am fyd hebddi."
