Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Janet Commins
- Cyhoeddwyd

Stephen Hough (dde) yn cael ei arwain i'r llys
Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo, wedi'i gyhuddo o lofruddio merch 15 oed o Fflint 40 mlynedd yn ôl.
Mae Stephen Hough, o'r Fflint, wedi'i gyhuddo o ymosodiad rhyw, treisio a llofruddio Janet Commins.
Cafodd corff Ms Commins ei ddarganfod ar gae ysgol yn Y Fflint ym mis Ionawr 1976.
Mae Mr Hough hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dreisio a chyffwrdd mewn modd rhywiol yn ymwneud a digwyddiad honedig ym mis Chwefror eleni.
Fe siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig, a bydd yr achos yn cael ei adolygu ym mis Rhagfyr.

Roedd Janet Commins wedi diflannu ar ôl ymweld â chanolfan hamdden