Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n gwneud cais i wisgo pabi
- Cyhoeddwyd

Chris Gunter yn gwisgo pabi coch ar ei fraich yn ystod y gêm yn erbyn Norwy yn 2011
Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n gofyn i FIFA am ganiatâd i'w chwaraewyr gael gwisgo pabi coch ar eu crysau yn eu gêm nesaf.
Nid yw'r corff llywodraethu'n gadael i chwaraewyr gwledydd Prydain wisgo pabi coch am fod y corff yn ei ystyried yn symbol gwleidyddol.
Mae Cymru'n chwarae Serbia yng Nghaerdydd ar 12 Tachwedd.
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cafodd cynsail ei osod yn 2011 pan wnaeth FIFA ganiatáu chwaraewyr i wisgo pabi coch ar rwymyn du o amgylch y fraich.
Mae ffrae wedi codi yn dilyn penderfyniad FIFA i wahardd chwaraewyr timau'r Alban a Loegr rhag gwisgo'r symbol ar 11 Tachwedd, sef Dydd y Cadoediad, sydd ddeuddydd cyn Sul y Cofio eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod carfan Chris Coleman wedi ymweld â chofebau'r Rhyfel Mawr yn y gorffennol ac roedd bwriad gwneud hyn eto yn y dyfodol. Fe fydd y garfan yn cynnal dau funud o dawelwch ar 11 Tachwedd.