Justin Tipuric yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae blaenasgellwr Cymru, Justin Tipuric wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd gyda'r Gweilch.
Bydd y cytundeb newydd yn cadw'r chwaraewr 27 oed gyda'r rhanbarth nes o leiaf 2020.
Roedd ei gytundeb blaenorol yn dod i ben yn haf 2018.
Mae Tipuric wedi cynrychioli ei ranbarth ar 128 achlysur, gan sgorio 19 o geisiau.
Mae hefyd wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, ac wedi sgorio tair cais rhyngwladol.
'Eisiau ennill mwy'
"Roedd yn benderfyniad hawdd," meddai Tipuric.
"Rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir ac rwy'n hapus i arwyddo i'r tîm rwy'n ei gefnogi.
"Rydw i wedi ennill y gynghrair gyda'r Gweilch unwaith ac rydw i eisiau ennill mwy, ac rwy'n meddwl y gallwn ni wneud hynny."