Cynnig rôl i Gymru wrth drafod telerau Brexit
- Cyhoeddwyd

David Davis AS yw Ysgrifennydd Brexit y DU
Mae Cymru wedi cael cynnig i helpu yn y broses o lunio safbwynt y DU yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae fforwm Brexit, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau San Steffan, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cwrdd ddydd Mercher.
Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Brexit, David Davis, ofyn i'r llywodraethau eraill "gyflwyno eu dadansoddiad" o'r sefyllfa er mwyn llunio safbwynt y DU yn ystod y trafodaethau gyda'r UE.
Bu Mr Davis hefyd yn rhannu barn ddiweddaraf Llywodraeth y DU ar yr holl broses.
'Adeiladol a chyfeillgar'
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Davis: "Roedd y cyfarfod heddiw yn gam pwysig i ddod a'r gweinyddiaethau datganoledig ynghyd gyda Llywodraeth y DU i drafod sut y gallwn ni gydweithio i gael y telerau gorau i'r holl DU.
"Yn naturiol, mae safbwyntiau gwahanol, ond roedd y cyfarfod yn adeiladol a chyfeillgar.
"Byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd a rhannu ein barn ddiweddaraf wrth i'r DU benderfynu ei strategaeth trafod telerau.
"Byddwn yn gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wrth i ni roi penderfyniad pobl y DU i adael yr UE ar waith."