Chwaraewr y Flwyddyn: Pwy ond Gareth Bale?
- Cyhoeddwyd

Gareth Bale sydd wedi ennill Chwaraewr y Flwyddyn yn noson wobrwyo Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a hynny am y pedwerydd tro'n olynol.
Wedi gorchestion yr haf, doedd dim syndod bod prif wobrau'r dynion i gyd wedi mynd i bobl fu'n amlwg yn ymgyrch Euro 2016.
Dewis y cefnogwyr fel Chwaraewr y Flwyddyn oedd Joe Allen, ac ef hefyd gafodd ei ddewis gan ei gyd-chwaraewyr.
Dewis y wasg a'r cyfryngau oedd Chris Gunter, ac fe aeth Gwobr Arbennig Cymdeithas Bêl-droed Cymru i'r rheolwr Chris Coleman.
Yn y gwobrau eraill, Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn oedd Ethan Ampadu, tra bod Phil Baker o glwb y Seintiau Newydd wedi ennill Chwaraewr Clwb y Flwyddyn yn Uwchgynghrair Cymru.
Chwaraewraig Gorau'r Flwyddyn oedd Natasha Harding - fe symudodd o Manchester City i Lerpwl yn gynharach eleni, ac fe enillodd cap rhif 50 dros Gymru hefyd.
Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn oedd Bronwen Thomas, ac fe gafodd Sophie Ingle - hefyd o glwb Lerpwl a chapten Cymru - ddwy wobr, sef dewis y cefnogwyr a'i chyd-chwaraewyr fel Chwaraewraig y Flwyddyn.
Euro 2016
Cafodd pedair gwobr ychwanegol eu cyflwyno i nodi perfformiad Cymru yn Euro 2016.
Chwaraewr canol-cae Arsenal, Aaron Ramsey gafodd wobr chwaraewr y Bencampwriaeth, tra bo Hal Robson-Kanu wedi ennill gôl y bencampwriaeth am ei ymdrech yn erbyn Gwlad Belg yn rownd yr wyth olaf.
Yr amddiffynnwr Ben Davies wnaeth ennill moment y bencampwriaeth am rwystro ergyd Marek Hamsík o Slofacia yn gynnar yng ngêm agoriadol Cymru yn Ffrainc.
Cafodd fand pres y Barry Horns hefyd eu cydnabod am eu cyfraniad arbennig i'r cefnogwyr.