Ethol Donald Trump: Yr ymateb i'r canlyniad yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Donald J Trump fydd arlywydd nesa'r Unol Daleithiau ac wrth i'r byd ystyried buddugoliaeth syfrdanol y Gweriniaethwr mae gwleidyddion yng Nghymru wedi bod yn ymateb hefyd.
Dywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod "llawer o waith o flaen Donald Trump nawr i uno cenedl sydd wedi ei rhannu" yn dilyn yr ymgyrch etholiadol "fwyaf ffyrnig ac annymunol yn hanes modern America".
"Yr Unol Daleithiau yw un o brif bartneriaid masnachu Cymru," meddai.
"Bydd gennym bresenoldeb cryf yn America o hyd."

Dywedodd Carwyn Jones bod angen i Donald Trump "uno cenedl sydd wedi ei rhannu"
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae angen "pwyllo" yn sgil y canlyniad ac mae angen i Mr Trump "ymgilio oddi wrth y sylwadau erchyll a glywsom yn ystod yr ymgyrch os yw e am ddelio gyda gweddill y byd".
"Yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghymru, rhai o'r ardaloedd a bleidleisiodd gryfaf dros Trump neu dros Brexit yw'r rhai hynny sydd â lleiaf o gyfleoedd," meddai.
"Y demtasiwn yn awr yw i bleidiau chwith-canol, sosialaidd neu flaengar anwybyddu'r bobl hyn. Ond rhaid i ni beidio â gwneud hyn."
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymateb i'r canlyniad hefyd. Yn ôl Alun Cairns: "Mae'n rhaid i Brydain a'r Unol Daleithiau barhau i gydweithio.
"Mae'r berthynas yn llawer mwy dwfn na unrhyw unigolyn. Mae hi yn niddordeb Cymru, y Deyrnas Unedig a hefyd diddordeb America ein bod ni'n cadw'n agos."
Craig Duggan fu'n holi Cymry Cymraeg ar ddwy ochr y canlyniad yn Efrog Newydd
Ar wefan Twitter, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, dolen allanol bod y canlyniad yn "ergyd arall i'r sefydliad gwleidyddol".
Wrth longyfarch Mr Trump ar y wefan, dywedodd aelod seneddol Mynwy, y Ceidwadwr David Davies, dolen allanol bod "syndod a dig rhai sylwebwyr yn dangos eu methiant i wrando ar y mwyafrif tawel".
Cymharu buddugoliaeth Mr Trump â phenderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd wnaeth arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.
Dywedodd: "Mae pobl wedi gwrthryfela'n erbyn sefydliad Washington yn yr un modd â gwrthryfel Brexit yn erbyn y sefydliad Ewropeaidd a dwi'n meddwl bod hwnna'n beth da."
Mewn cyfweliad ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd yr aelod cynulliad Llafur, y Farwnes Eluned Morgan, ei bod hi'n poeni y gallai dirwasgiad ddigwydd yn yr Unol Daleithiau nawr "a'r bobl hynny a bleidleisiodd dros Trump fydd yn cael yr ergyd gyntaf o ran colli swyddi".
"Dwi'n poeni'n enfawr byddan nhw'n diodde' achos yr hyn maen nhw wedi ei wneud," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2016
