Gwasanaethau i gofio'r rhai fu farw mewn rhyfeloedd
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau wedi eu cynnal ar draws Cymru i gofio'r rhai fu farw mewn rhyfeloedd.
Roedd y gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd gyda gorymdaith o Rodfa'r Brenin Edward VII i Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng ngerddi Alexandra.
Mae gwasanaethau hefyd wedi digwydd mewn trefi a dinasoedd eraill fel Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd yn ystod y dydd.
Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ymhlith y rhai wnaeth fynychu'r digwyddiad yng Nghaerdydd.


Dywedodd: "Mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y cyfle yma i dalu teyrnged i'r rhai hynny wnaeth golli eu bywydau, gan dalu'r pris eithaf ar gyfer ein rhyddid.
Ddydd Gwener bu pobl ar draws Cymru'n cofio'r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Mae Dydd y Cadoediad yn nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ar unfed awr ar ddeg, yr unfed dydd ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg o'r flwyddyn.
Cafodd dau funud o dawelwch ei nodi gan bobl ar draws y wlad, gan gynnwys y senotaff yn Abertawe, Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam ac ar y maes coffa yng Nghaerdydd.