Dau yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Nhrelái
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ddechreuodd oherwydd bod yna nam ar y rhewgell.
Cafodd criwiau tân eu galw am 03:20 i dŷ yn Nhrelái, Caerdydd.
Llwyddodd un person i ddianc gyda help cymydog.
Bu'n rhaid i gymydog arall hefyd gael triniaeth yn sgil y mwg.
Fe gafodd ci hefyd ei ladd yn y tân.