Llwyddiant diweddar Casnewydd yn parhau
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 2- 0 Caerliwelydd
Mae llwyddiant diweddar Casnewydd yn parhau wedi iddyn nhw gael buddugoliaeth arall- y tro yma adref yn erbyn Caerliwelydd (Carlisle).
Dyma'r pumed gêm iddyn nhw guro yn olynol.
Roedd ergyd i'r rhwyd yn gynnar yn y gêm gan Josh Sheehan a gôl arall gan Rhys Healey yn yr ail hanner yn golygu bod hi'n anodd i'r ymwelwyr daro yn ôl.
Mae Casnewydd yn parhau ar waelod adran 2 ond maent nawr bwynt y tu ôl i Leyton Orient.