Sêl bendith i gampws arloesedd Prifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dau adeilad sydd yn rhan o ganolfan ymchwil £300m Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo gan gyngor y ddinas.
Fe fydd y campws arloesedd yn cael ei adeiladu ar Barc Maendy, ac mae disgwyl i'r adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2017.
Bydd y gwaith ymchwil yn y ganolfan yn ymwneud ag ystod o bynciau yn cynnwys gwyddoniaeth gemegol a chyfieithu.
Bydd cyfle hefyd i sefydliadau logi labordy neu swyddfa os ydynt eisiau cydweithio gyda'r gweithwyr yn y ganolfan, ac fe fydd gwagle i gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd.


Y gobaith yw y bydd y llefydd cyhoeddus yma yn ffordd i'r ymchwilwyr gysylltu gyda'r gymuned leol.
Mae disgwyl i bont gael ei hadeiladu hefyd i gysylltu'r campws gyda'r Ysgol Fusnes sydd yn bodoli'n barod.
Dywedodd yr is ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae ein gweledigaeth i fod yn arloesol yn fwy na dim ond yr adeilad.
"Rydyn ni'n cyflogi academwyr rhyngwladol a fydd yn gallu creu tîm o ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth o safon byd eang. Rydyn ni'n rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr fel eu bod yn medru sefydlu mentrau eu hunain yn y dyfodol."
Y campws yw'r trydydd cam yn natblygiad Parc Maendy. Fe agorodd adeilad Hadyn Ellis yn 2013, a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC) ym mis Mehefin eleni.