Cwmni offer meddygol am ddiswyddo bron i 100 o staff
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni cynhyrchu offer meddygol yn Sir Y Fflint yn bwriadu cael gwared â bron i 100 o swyddi fel rhan o broses ailstrwythuro.
Dywed ConvaTec, sy'n cyflogi 498 o bobl, eu bod wedi dechrau'r broses o ymgynghori - gyda'r bwriad o ddiddymu 93 o swyddi llawn amser erbyn chwarter cyntaf 2017.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn cynnig pecynnau diswyddo ar gyfer y rhai sy'n dymuno gadael yn wirfoddol.
Y llynedd fe wnaeth y cwmni gyhoeddi buddsoddiad o £3.7m yn y safle, gan greu 67 o swyddi.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfrannu tuag at y buddsoddiad.