Taliadau parcio wedi rhoi £13.8m o elw i gynghorau Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cynghorau Cymru elw o £13.8m o daliadau parcio ceir yn 2015/16, yn ôl ffigyrau gan sefydliad yr RAC.
Mae'r cyfanswm, sy'n cynnwys parcio ar y stryd, meysydd parcio a dirwyon ar ôl costau, yn golygu bod y ffigwr wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol.
O'r 22 cyngor, fe wnaeth 19 wneud elw, gyda'r mwyaf yng Nghaerdydd (£3.5m).
Abertawe (£2.4m) a Gwynedd (£1.4m) oedd yn ail a thrydydd ar y rhestr.
Fe wnaeth tri o'r cynghorau golli arian - Sir y Fflint (£423,000), Blaenau Gwent (£310,000) a Thorfaen (£81,000).
Cyn costau, roedd gan y cynghorau incwm o £35.8m - cynnydd o 5.6% ar y 12 mis blaenorol.
Dywedodd cyfarwyddwr yr RAC, Steve Gooding, y dylai elw o barcio gael ei wario ar gynlluniau trafnidiaeth, gan gynnwys trwsio tyllau yn y ffyrdd.