Cyhuddo dyn o Wrecsam o droseddau terfysgol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 48 oed o Wrecsam wedi cael ei gyhuddo o droseddau dan y Ddeddf Derfysgaeth.
Bydd Aabid Ali, sy'n wreiddiol o Fanceinion ac oedd yn cael ei adnabod fel Darren Glennon, yn mynd o flaen Llys Ynadon Westminster fore Gwener.
Cafodd Ali ei arestio ar 10 Tachwedd fel rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu'r Gogledd, Heddlu Sir Gorllewin Canolbarth Lloegr ac Uned Gwrth-Derfysgaeth Cymru (WECTU).
Mae'n wynebu dau gyhuddiad - un o fod â dogfen yn ei feddiant fyddai'n debygol o fod o ddefnydd i berson sy'n paratoi i gynnal gweithred derfysgol, ac un cyhuddiad o annog terfysgaeth.
Gwyliadwrus
"Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gysylltiadau cryf â'r gymuned Fwslemaidd ac mae aelodau o'r gymuned honno wedi gweithio gyda ni i gefnogi'r ymchwiliad hwn," meddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki o Heddlu Gogledd Cymru.
"Mae eithafiaeth a radicaliaeth yn rywbeth rydyn ni wastad yn wyliadwrus ohono.
"Rydyn ni hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod ni'n taclo ymdrechion i erlid neu gyflawni troseddau casineb yn erbyn cymunedau Mwslemaidd ar draws Gogledd Cymru. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau.
"Does neb mewn lle gwell i adnabod os yw rhywbeth o'i le yn eu cymunedau na'r bobl sydd yn byw yno.
"Er mwyn taclo'r bygythiad terfysgol mae'n rhaid i'r heddlu, busnesau, y llywodraeth a'r cyhoedd weithio gyda'i gilydd."