Gwariant cyhoeddus Cymru '10% yn uwch' na'r cyfartaledd
- Cyhoeddwyd

Mae gwariant cyhoeddus yng Nghymru 10% yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Trysorlys.
Yn 2015/16 roedd £9,996 yn cael ei wario am bob person yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd o £9,076 ar draws gwledydd Prydain.
Iechyd ac addysg oedd y meysydd gyda'r lefel uchaf o wariant, gyda chyfanswm o £31 biliwn yn cael ei wario yng Nghymru.
Roedd gwariant ar iechyd yn £2,127 y pen, 0.3% yn uwch na chyfartaledd y DU, tra bod addysg yn £1,320 y pen, sef 2% yn fwy.
O gyfuno iechyd a gwasanaethau cymdeithasol roedd y gwariant yng Nghymru yn £2,696 - sef 6% yn uwch nag yn Lloegr.
Ond roedd gwahaniaeth llawer mwy i'w weld yn y gwariant ar fudd-daliadau anallu, anabledd ac anaf, gyda'r lefel yng Nghymru yn £908 y pen.
Roedd hynny 48% yn uwch na chyfartaledd Lloegr ac 17% yn uwch na'r Alban, ond 28% yn is na lefel y gwariant yng Ngogledd Iwerddon.