Milwr wedi marw o 'achosion naturiol' ym mis Gorffennaf
- Cyhoeddwyd

Mae teulu milwr fu farw ar ymarferiad yn Aberhonddu wedi cael clywed ei fod wedi marw o achosion naturiol.
Bu farw'r Cpl Joshua Hoole, 26 oed o Lockerbie yn Yr Alban, ar gwrs hyfforddi ym mis Gorffennaf eleni.
Roedd Cpl Hoole wedi gorffen taith wyth milltir pan lewygodd yng nghanolfan hyfforddi Dering Lines. Roedd yn aelod o gatrawd y reifflau yng nghanolfan hyfforddi Catraeth.
Bu farw ar un o'r diwrnodiau poethaf o'r flwyddyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 30C yn ardal Aberhonddu.
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ymchwilio i'w farwolaeth ar y pryd.
Dywedodd John Craig, taid y milwr wrth BBC Cymru fod y teulu wedi cael clywed gan swyddogion ei fod wedi marw o achosion naturiol.
Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio gan ei fodryb Morag Craig fel dyn "cwbl ffantastig" gyda "chalon o aur".
Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r mater i grwner Powys.

Bu farw Cpl Joshua Hoole ar ôl dychwelyd i farics Dering Lines yn Aberhonddu
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2016
