Gwrthwynebu symud plant i safle uwchradd yn Nolgellau
- Cyhoeddwyd

Bydd safle uwchradd yr ysgol newydd ar safle presennol Ysgol y Gader
Mae 'na wrthwynebiad mawr gan rieni yn ardal Dolgellau i'r syniad o symud plant cynradd blwyddyn pump a chwech i safle uwchradd fel rhan o ad-drefnu addysg yn y cylch.
Fis Medi nesa' bydd ysgol newydd Bro Idris ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3-16 yn agor ei drysau.
Bydd yr ysgol ar chwe safle gwahanol, un uwchradd a phump cynradd. Ar dir Ysgol y Gader fydd y safle uwchradd, gyda safleoedd cynradd yn Llanelltyd, Y Friog, Dolgellau, Dinas Mawddwy a Rhydymain.
Bydd ysgolion y Brithdir a Ganllwyd yn cau fel rhan o'r adrefnu, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd y Gader.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai rhoi plant rhwng naw ac 13 oed gyda'i gilydd ar y safle uwchradd yn "sicrhau dilyniant effeithiol o addysg cynradd i'r uwchradd", ac y byddai cydweithio effeithiol rhwng athrawon.
Y broses yn 'llanast'
Un sy'n llwyr wrthwynebu symud plant cynradd i'r uwchradd ydi Aranwen Manzini Hughes, sy'n rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Ieuan Gwynedd yn Rhydymain.
Fe ddaeth y wybodaeth am y cynllun posib i symud plant cynradd blynyddoedd pump a chwech o'r ysgolion cynradd i'r safle uwchradd mewn newyddlen ysgol, meddai.
Dywedodd: "Bydd disgwyl plentyn bach prin wedi cael ei ben-blwydd yn naw oed yn mis Awst fod ar yr un safle â phlentyn 16 oed, dwi'n meddwl fod y syniad yn un gwallgo' llwyr.
"Mae'r broses yn llanast yn fy marn i. Bydd disgwyl i blant cynradd rannu toiledau, dosbarthiadau a chaeau chwarae efo plant uwchradd a dydi'r adeiladau ar safle'r Gader ddim yn addas."

Dyw Aranwen Manzini Hughes ddim yn credu bod yr adeiladau yn y safle uwchradd yn addas
Mae Gwerfyl Price, sy'n fam i efeilliaid yn Ysgol Y Brithdir hefyd yn gwrthwynebu'r cynllun i symud plant cynradd i'r safle uwchradd. Mi fydd Ysgol Brithdir yn cau fel rhan o'r ad-drefnu.
"Doedd y syniad yma ddim yn rhan o'r ddogfen ymgynghorol o gwbl. Mae'n newyddion hollol syfrdanol," meddai.
"Dw i wedi dychryn hefyd a ddim yn siŵr beth sy'n mynd i ddigwydd o ran rhoi plant cynradd efo rhai uwchradd. Mi fyddan nhw'n colli plentyndod ar safle uwchradd, a beth fydd yr effaith emosiynol.
"Dw i'n meddwl fod yr holl syniad wedi ei gyflwyno mewn modd llechwraidd."
Mae 'na ddeiseb wedi cael ei threfnu gan Sioned Rees, rhiant yn y Brithdir, i wrthwynebu'r syniad.

Cafodd y ddeiseb ei lansio wythnos diwethaf
Mae'n dweud fod rhieni yn gandryll a bod 'na ymateb positif wedi bod i'r ddeiseb. Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i gorff llywodraethol cysgodol Ysgol newydd Bro Idris.
Dywedodd: "Dwi'n meddwl fod rhieni yn ystyried symud eu plant o'r ardal i gael eu haddysg oherwydd ei fod o wedi eu dychryn nhw gymaint a dweud y gwir."
'Dilyniant effeithiol'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod y model addysg cychwynnol posib ar gyfer Ysgol Bro Idris yn cynnig rhannu'r ysgol i dair categori sef plant tair i naw oed, plant naw i 13 oed, a phlant 13 i 16 oed.
"Barn arweinyddiaeth yr ysgol ydi y byddai model o'r fath yn sicrhau dilyniant effeithiol o addysg cynradd i'r uwchradd. Byddai hefyd yn sicrhau cydweithio a chydgynllunio effeithiol rhwng yr athrawon."
Dywed y datganiad hefyd na fydd corff llywodraethu cysgodol Ysgol Bro Idris yn gwneud penderfyniad nes y byddan nhw wedi ystyried yr holl adborth gan rieni.
Mae gan y rhieni tan 22 Tachwedd i roi eu hymateb.