Euog o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn arweinydd côr eglwys gadeiriol yn Abertawe wedi cael dedfryd o garchar gohiriedig am droseddau rhyw.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Ross Paul Mathews, 34, wedi ffilmio ei hun yn gwneud gweithred rhyw ac yna anfon y delweddau at fachgen yn ei harddegau.
Fe wnaeth Mathews, cyn arweinydd côr Eglwys Gatholig St Joseph, bledio'n euog i ddau gyhuddiad o annog y bachgen i edrych ar ddelweddau anweddus.
Cafodd Mathews o ardal Brynhyfryd, oedd hefyd yn gynorthwy-ydd dysgu ar y pryd, gyfnod o garchar gohiriedig o 10 mis.