Tân ffôn symudol yn llosgi cartref ym Mhorthmadog
- Cyhoeddwyd

Llofft yn y tŷ cyn ac ar ôl y digwyddiad
Mae llofft merch o ogledd Cymru wedi ei llosgi'n ulw ar ôl i ffôn symudol gael ei adael wedi cysylltu i'r trydan dros nos.
Ni chafodd Caitlin Rae Durant, 15, ei hanafu yn y tân yn ei chartref ym Morfa Bychan, Porthmadog, ond cafodd yr ystafell ei llosgi'n llwyr.
Cafodd y ffôn ei adael dros nos, gan achosi iddo orboethi ac achosi'r tân.
Dywedodd ei mam Gemma bod "pawb yn iawn" ond bod y tŷ wedi ei "ddifetha".
Mae'n bosib y bydd rhaid i'r teulu ddisgwyl chwe mis cyn symud yn ôl i'r tŷ.

Yn ôl y gwasanaeth tân, ni ddylai ffonau gael eu gadael wedi cysylltu â'r trydan dros nos, ac i ddefnyddio offer o "ffynhonnell ddibynadwy" yn unig i gysylltu ffonau a'r pŵer.
Dywedodd Ms Durant: "Mae popeth i fyny grisiau wedi ei ddinistrio oherwydd y gwres, mwg a difrod y dŵr. Doedd dim modd achub unrhyw beth."
Ychwanegodd: "Er bod y tân mewn un ystafell, mae'r effaith yn enfawr, ac mae'n bosib ein bod wedi colli ein holl eiddo."