Cwpan Eingl-Gymreig: Y Gweilch a'r Dreigiau yn ennill
- Cyhoeddwyd

Gleision 7-31 Gweilch
Fe wnaeth y Gweilch sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws dros y Gleision ym Mharc yr Arfau yn y Gwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Sgoriodd Scott Otten o fewn munudau cyn i'r Gleision daro'n ôl drwy Rhodri Davies.
Ond ar ôl i brop y Gleision, Anton Peikrishvil, gael ei yrru o'r cae, roedd hi'n llawer mwy unochrog.
Sgoriodd Brendon Leonard, Tom O'Flaherty a Dan Evans i'r Gweilch i sicrhau'r fuddugoliaeth.


Dreigiau 36-21 Scarlets
Fe wnaeth y Dreigiau roi perfformiad cryf yn ail hanner eu gem yn erbyn y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws.
Roedd y Scarlets ar y blaen ar yr egwyl wedi ceisiau gan Dafydd Hughes a Corey Baldwin.
Ond cafodd blaenasgellwr y Scarlets, Jack Condy, gael ei yrru o'r cae wedi 45 munud, gan newid y gêm.
Sgoriodd Nick Crosswell, Carl Meyer, Harrison Keddie a Sam Beard i'r Dreigiau, wrth i giciau Angus O'Brien ychwanegu naw pwynt.