Uwch Gynghrair Lloegr: Everton 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gylfi SigurdssonFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Aeth yr Elyrch ar y blaen gyda chic o'r smotyn gan Gylfi Sigurdsson

Fe wnaeth gôl hwyr Seamus Coleman ym Mharc Goodison atal Abertawe rhag sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers i Bob Bradley gymryd drosodd fel rheolwr.

Y chwaraewr o Wlad yr Iâ, Gylfi Sigurdsson oedd wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen gyda chic o'r smotyn ychydig cyn hanner amser.

Ond roedd peniad Coleman yn y munudau olaf yn ddigon i achub pwynt i'r tîm o Lerpwl

Dydi Abertawe nawr ddim wedi ennill gêm yn y gynghrair ers diwrnod cyntaf y tymor ac mae'n golygu eu bod yn disgyn i waelod y tabl yn dilyn buddugoliaeth Sunderland