Cyfle i fynd tu ôl i'r llenni ar gyfres Y Gwyll
- Cyhoeddwyd

Bydd gwylwyr Y Gwyll yn cael y cyfle i fynd ar set y rhaglen fel rhan o arddangosfa yn rhad ac am ddim.
Mae golygfeydd cyfarwydd o'r gyfres wedi cael eu hail-greu yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r arddangosfa newydd yn cynnwys y swyddfa sy'n cael ei rhannu gan DCI Tom Mathias a DI Mared Rhys - Richard Harrington a Mali Harries - yn y gyfres.
Mae gweithdai hefyd yn cael eu cynnal i gyd-fynd â'r arddangosfa, fydd ar agor nes 22 Rhagfyr.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Rhodri Llwyd Morgan mai'r arddangosfa yw'r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau fel rhan o gynllun i "ddod a bywyd newydd i'r Hen Goleg".
Mae trydedd gyfres y rhaglen yn cael ei dangos ar S4C ar hyn o bryd a bydd y fersiwn Saesneg, Hinterland, yn cael ei ddarlledu ar y BBC yn gynnar y flwyddyn nesaf.