Fferi yn cyrraedd Abergwaun ar ôl treulio noson ar y môr
- Cyhoeddwyd

Y fferi'n cyrraedd porthladd Abergwaun ar ôl treulio'r noson ym Mae Ceredigion
Mae fferi oedd wedi gorfod treulio noson ar y môr ym Mae Ceredigion oherwydd y tywydd garw bellach wedi glanio yn saff.
Bu'n rhaid i tua 90 o deithwyr gysgu dros nos yn y llong Stena Line, oedd wedi methu â glanio yn Abergwaun neithiwr oherwydd y tywydd garw.
Fe wnaeth y fferi lwyddo i lanio am 11:00 fore ddydd Mawrth ar ôl i'r tywydd wella.
Mae'r tywydd hefyd wedi effeithio ar wasanaethau fferi rhwng Dulyn a Chaergybi, gydag un llong yn cyrraedd Caergybi fore ddydd Mawrth ar ôl hefyd gorfod treulio'r nos ar y môr, a nifer o wasanaethau ddydd Mawrth wedi'u canslo.
Yn y cyfamser mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl i wneud popeth sy'n bosib i leihau effaith llifogydd yn y dyfodol, yn dilyn glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Mae'r storm wedi achosi llifogydd ac effeithio ar deithwyr, ac ar un adeg fore Mawrth roedd 19 o rybuddion llifogydd 'Byddwch yn barod' mewn grym yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru., dolen allanol
Mae naw o'r rhybuddion yn dal i fod mewn grym - pedwar yn y gogledd, tri yn y de orllewin a dau yn y de ddwyrain.

Cerbyd mewn trafferth ger ffordd yr A40 yn San Clêr cyn i'r afon ei golchi i ffwrdd - ni chafodd unrhyw un anaf meddai'r heddlu
Ar ôl trafferthion yn y de yn ystod y dydd roedd 'na broblemau yn y gogledd erbyn neithiwr. Fe gafodd y Gwasanaeth Tân nifer sylweddol o alwadau i ddelio â llifogydd - gan gynnwys yn Abergele, Y Rhyl a Bangor.
Yn y cyfamser, mae'r chwilio am ddyn sydd ar goll o ardal Pen-y-bont ger Afon Ogwr yn parhau.
Aeth Russell Sherwood, 69 oed o Gil-ffriw, Castell-nedd, ar goll yn ardal Stormy Down ddydd Sul.

Llanast mewn tŷ ym Maesteg wedi llifogydd
Y gred yw bod y tywydd gwaethaf ar ben, ond mae CNC yn dweud bod y risg o lifogydd yn parhau dros y gaeaf.
"Mae wedi bod yn gyfnod gwlyb iawn dros y dyddiau diwethaf dros rannau helaeth o Gymru," meddai pennaeth rheoli risg llifogydd, Jeremy Parr.
"Gall ddigwydd eto a gall ddigwydd yn unman.
"Ewch ati i weld os ydych chi mewn perygl - weithiau nid yw pobl yn meddwl eu bod - ac am yswiriant.
"Y cyngor gorau yw i feddwl am y pethau yma o flaen llaw a pheidio aros tan ei bod yn rhy hwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2016
