Enwi adeilad newydd er cof am John Glyn Jones
- Cyhoeddwyd

John Glyn Jones
Bydd adeilad newydd gwerth £3 miliwn yn Ninbych yn cael ei enwi ar ôl y diweddar John Glyn Jones, bardd a phrif weithredwr cyntaf Cymdeithas Tai Clwyd.
Dywed Grŵp Cynefin, sy'n gyfrifol am ddarparu tai yn siroedd y gogledd, fod hyn yn ffordd deilwng o gydnabod ei "gyfraniad enfawr i ddatblygiad y sector dai yng Nghymru dros chwarter canrif yn ei rôl fel Prif Weithredwr Tai Clwyd."
Yn ôl Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: "Pan gollwyd John Glyn yn llawer rhy fuan llynedd, roedd staff ac aelodau Bwrdd y gymdeithas yn unfrydol y dylem roi enw'r gŵr hynaws hwn ar ein swyddfa newydd, fel coffâd iddo yn nhref Dinbych.
"Unwyd Tai Clwyd a Thai Eryri ddwy flynedd a hanner yn ôl gan ffurfio Grŵp Cynefin, ond mae ffrwyth llafur y blynyddoedd o dan arweiniad John Glyn cyn ymddeol yn 2007 yn parhau."
Yn ogystal â'i rôl yn y sector dai roedd John Glyn Jones yn fardd ac yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol tref Dinbych a thu hwnt.
Ef oedd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol pan ymwelodd â Dinbych yn 2013.
'Ymroddiad'
Dywedodd Manon Glyn, merch John Glyn Jones: "Fel teulu da ni'n gwerthfawrogi'n fawr fod gwaith Dad, a'i ymroddiad i'r ardal ac i Gymdeithasau Tai lleol a thrwy Gymru gyfan yn cael ei gofio a'i gydnabod mewn ffordd mor nodedig.
"Byddai'n hynod o falch fod Grŵp Cynefin wedi llwyddo i gadw'r swyddfa newydd, nid yn unig yn Ninbych, ond yng nghanol y dref."
Ar hyn o bryd mae staff Cynefin wedi'u lleoli mewn tair swyddfa ar wahân yn y dref.
Fe fydd y swyddfa newydd ar y Stryd Fawr.
Mae swyddfa Dinbych yn un o bedair swyddfa ardal Grŵp Cynefin, gyda'r gweddill wedi eu lleoli ym Mhenygroes, Y Bala a Llangefni.
Ychwanegodd Rhys Dafis: "Rydym yn falch hefyd ein bod yn cefnogi traddodiadau diwylliannol ac ieithyddol gogledd Cymru drwy ein gweithgareddau. Roedd creu sefydliad sy'n gallu gweithio drwy'r Gymraeg a darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog yn agos iawn at galon John Glyn, ac mae'n parhau i fod yn un o gonglfeini amcanion busnes Grŵp Cynefin. Gallwch gerdded i mewn i unrhyw un o'n swyddfeydd, a chael gwasanaeth llawn yn y ddwy iaith ym mhob agwedd o'n gwaith."