Dod o hyd i gar dyn sydd ar goll ger Afon Ogwr
- Cyhoeddwyd

Fe aeth Russell Sherwood ar goll ddydd Sul
Mae swyddogion sy'n chwilio Afon Ogwr ger Pen-y-bont am ddyn sydd ar goll yn dweud eu bod yn credu eu bod wedi dod o hyd i'w gerbyd.
Fe aeth Russell Sherwood, 69 oed o Gil-ffriw, Castell-nedd, ar goll yn ardal Stormy Down ddydd Sul.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod wedi rhoi'r gorau i chwilio dros nos oherwydd lleoliad y cerbyd, y diffyg golau a'r tywydd garw.
Mae teulu Mr Sherwood wedi cael gwybod am y datblygiadau, ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.