Cwtogi dedfryd cyn gynghorydd am secstio
- Cyhoeddwyd

Cafodd Stephen Evans ei ddedfrydu ym Mis Awst
Mae barnwr wedi cwtogi dedfryd cyn gynghorydd yn Sir Benfro, gafodd ei garcharu am anfon negeseuon testun anweddus i ferch 15 oed.
Cafodd Stephen Evans o Hwlffordd ei ddedfrydu i 15 mis dan glo ym Mis Awst, ar ôl cyfaddef i ddau gyhuddiad o gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd r
Fe aeth y dyn 57 oed â'i achos i'r Llys Apêl yn Llundain ddydd Mercher.
Penderfynodd y barnwr gwtogi'r ddedfryd i 20 wythnos, cyfnod y mae Evans eisoes wedi ei gwblhau.
Cafodd Evans ei ethol yn gynghorydd tref yn Hwlffordd yn 2010. Roedd e hefyd yn weithiwr gwirfoddol ac yn ddyfarnwr pêl-droed.
Clywodd y llys ei fod wedi anfon dwy neges at y ferch cyn ei phen-blwydd yn 16 oed.