Gareth Bale allan 'am hyd at dri mis' oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Gareth Bale anaf i'w ffêr yn y gêm yn erbyn Sporting Lisbon nos Fawrth
Mae Real Madrid wedi cyhoeddi y bydd Gareth Bale yn cael llawdriniaeth i'w ffêr, wedi iddo gael ei anafu yn ngêm Cynghrair y Pencawmpwyr yn erbyn Sporting Lisbon nos Fawrth.
Bu'n rhaid i'r Cymro adael y cae tua awr i mewn i'r gêm, ddaeth i ben gyda buddugoliaeth o 2-1 i Real.
Cyhoeddodd y clwb y bydd y chwaraewr 27 oed yn cael llawdriniaeth yn Llundain ddydd Mawrth nesaf.
Er nad yw Real Madrid wedi dweud am ba mor hir y mae disgwyl iddo fod oddi ar y cae, mae yna adroddiadau yn Sbaen y gallai fod allan am hyd at dri mis.
Bydd gêm nesaf Cymru yn ymgrych rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn ar 24 Mawrth 2017.