Cwtogi oriau Uned Gofal Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd

Trafodaeth ar gwtogi oriau Uned Gofal Paediatrig Ysbyty Llwynhelyg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penderfynu bwrw mlaen â chynlluniau i dorri oriau agor Uned Gofal Pediatrig Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd dros dro.
Mewn cyfarfod yn Llanelli ddydd Iau, cytunodd i newid yr oriau agor o 10:00 tan 22:00, i rhwng 10:00 a 18:00 yn sgil problemau recriwtio pediatregwyr ymgynghorol.
Bydd y newid yn cael ei gyflwyno ar unwaith.
Gwrthododd y Bwrdd dri argymhelliad arall tan i ymgynghoriad pellach gael ei gynnal
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ymddeoliad diweddar un ymgynghorydd a chyfnod mamolaeth wedi gwaethygu'r sefyllfa.
Teithio i Gaerfyrddin
Mae'r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn gofalu am blant sydd yn cael eu taro'n wael yn sydyn neu sydd angen profion fel archwiliad pelydr-X.
Mae'r newid yn golygu y bydd plant sâl yn gorfod teithio i Gaerfyrddin i gael eu hasesu neu am driniaeth ar ôl 18:00.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd, Dr Philip Kloer: "Mae yna anhawsterau wedi bod ers peth amser wrth recriwtio ymgynghorwyr paediatrig, yn enwedig yn ystod y mis diwethaf.
"Doedd yr ymdrechion i fynd i'r afael â recriwtio yn gynharach eleni ddim mor llwyddiannus ag yr oedden wedi ei obeithio."
'Sefyllfa dros dro'
Dywedodd y Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore: "Mae papur heddi'n ganlyniad i sefyllfa frys. Mater dros dro yw hyn yr ydym yn benderfynol o'i gywiro.
"Dydyn ni ddim eisiau i hyn niweidio hyder staff a'r cyhoedd," ychwanegodd.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Alyston Thomas ar ran Cyngor Iechyd Cymunedol y bwrdd iechyd: "Mae hyn yn siom fawr i bobl Sir Benfro sydd nawr yn y sefyllfa hon.
"Mae'r modd y mae'r bwrdd iechyd wedi delio â'r sefyllfa yn achos pryder i ni."