Trinity Mirror yn ymgynghori ar gau safle argraffu
- Cyhoeddwyd

Mae Trinity Mirror yn gyfrifol am nifer o deitlau gan gynnwys y Western Mail
Mae grŵp papurau newydd Trinity Mirror wedi dechrau ymgynghori gyda staff ynglŷn â chau safle argraffu yng Nghaerdydd.
Mae'r grŵp yn gyfrifol am argraffu nifer o deitlau gan gynnwys y Western Mail, South Wales Evening Post, South Wales Echo a'r Llanelli Star.
Dywedodd llefarydd bod y penderfyniad o ganlyniad i leihad yn nifer y papurau sy'n cael eu hargraffu, ac "adleoliad" nifer o deitlau'r cwmni.
Ychwanegodd y llefarydd bod ymgynghoriad wedi dechrau gyda'r 33 o staff sy'n cael eu heffeithio.