Norofirws yn cau pum ward yn Ysbyty Maelor Wrecam
- Cyhoeddwyd

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cau pum ward i'r cyhoedd gan fod nifer o gleifion yn dioddef o'r norofirws sydd yn achosi salwch.
Yn ôl llefarydd ar ran y bwrdd iechyd mae 21 o gleifion yn dioddef symptomau'r firws.
Yn ogystal â'r wardiau sydd wedi cau i'r cyhoedd mae cyfyngiadau mewn grym mewn dwy ward arall.
Mae'r ysbyty yn annog pobl sydd â symptomau'r firws i gadw draw o'r ysbyty.