Cymru v De Affrica: Newidiadau i drefniadau teithio
- Cyhoeddwyd

Bydd nifer o'r ffyrdd yng nghanol Caerdydd ar gau ar gyfer y gêm
Bydd yn rhaid i holl deithwyr trên ar wasanaethau Caerdydd a'r Cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines ddydd Sadwrn wrth i'r gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica effeithio ar drefniadau teithio.
Y bwriad, medd Arriva Trains Wales, yw rhyddhau mwy o le yng ngorsaf Caerdydd Canolog a threialu system newydd i ddelio â theithwyr fydd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer ffeinal pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr yn 2017.
Bydd yr holl strydoedd yng nghanol y brifddinas hefyd ar gau rhwng 15:30 a 20:30, ac fe fydd eraill gan gynnwys Teras yr Orsaf ar gau nes 01:00 fore Sul.
Mae'n golygu na fydd bysus yn mynd i ganol y ddinas, ac yn hytrach yn gollwng teithwyr yn Churchill Way, Heol Greyfriars neu Stryd Tudor.

Bydd yn rhaid i deithwyr i'r Cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines
Ar ôl 19:00, yr unig drenau fydd yn mynd o orsaf Caerdydd Canolog fydd rhai i orllewin Cymru, Casnewydd, Glyn Ebwy, Henffordd, gogledd Cymru, Llundain, Bryste, Caerloyw a Birmingham.
Bydd trenau yn mynd o Heol y Frenhines i Gwm Taf, Cwm Rhymni, a De Caerdydd a'r Bae.
"Mae'r newidiadau yma i gyd yn rhan o'n paratoadau ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin," meddai Lynne Milligan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid gorsaf Heol y Frenhines.
"Rydyn ni wastad yn edrych am ffyrdd i wella profiad ein teithwyr ac fe fydd defnyddio Heol y Frenhines Caerdydd ar gyfer ein gwasanaethau lleol i Gaerdydd a'r Cymoedd yn helpu'r llif cyflenwol a symud teithwyr ar ôl y gêm."