Adran 2: Blackpool 4-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Sean Rigg yn methu cic o'r smotyn
Fe newidiodd y gêm hon rhwng Blackpool a Casnewydd wedi i Sean Rigg o Gasnewydd fethu cic o'r smotyn ar ôl 55 munud. Roedd y gêm yn gyfartal tan hynny wedi i Brad Potts sgorio oddi ar groesiad gan Jack Payne - yna daeth Casnewydd yn ôl gyda gôl gan Rhys Healey.
Ond wedi i Sam Slocombe golwr Blackpool arbed y gic o'r smotyn cynyddodd hyder Blackpool ac fe sgoriodd y tîm cartref dair gôl drwy Jack Payne, Vassell a Kelvin Mellor.
Siom i dîm y de ddwyrain felly.