Y Ceidwadwyr yn galw am gyllido 'tecach'
- Cyhoeddwyd

Yn ol Andrew RT Davies mae cronfeydd Ewropeaidd wedi methu ag adfywio economi Cymru
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud y dylid ariannu cynlluniau yng Nghymru yn decach yn dilyn Brexit.
Ar hyn o bryd mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd tlotaf Cymru, yn y gorllewin a chymoedd y de.
Yn ôl y Ceidwadwyr fe ddylid edrych o'r newydd ar gyfleoedd yn dilyn Brexit i ariannu ardaloedd eraill mewn angen gan gynnwys trefi fel y Barri a Wrecsam.
Yn ôl Mr Davies "Os edrychwch chi ar wardiau mewn trefi yn y Barri, mae lefelau tlodi yr un mor uchel ag ardaloedd tlawd yn y cymoedd."
"Mae angen i gydweithio yn well a'r sector breifat mewn partneriaeth er mwyn adfywio'r economi."
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics BBC Cymru fe wrthododd Mr Davies alwad y Gweinidog Cyllid Mark Drakeford, sydd o blaid rhoi llais uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Fe ddywedodd Andrew RT Davies bod y Prif Weinidog Theresa May wedi rhoi "digon o gyfle" i arweinwyr Lywodraeth Cymru wneud eu safbwynt yn glir.
Ansicrwydd mawr
Yn gynharach fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gyfrifol am greu ansicrwydd mawr yng Nghymru.
Mewn erthygl yn y Sunday Times hawliodd Mr Jones bod "prosiectau difrifol ar y rhestr aros yng Nghymru a allai hybu tŵf economaidd."
Roedd diffyg cynnydd meddai gan lywodraeth y DU ynglŷn â phrosiect morlyn Abertawe, a dim cynllun i gefnogi diwydiant dur Cymru.