Teyrnged i gyn-arweinydd Cytûn, Gethin Abraham Williams
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r Parchedig Gethin Abraham Williams, cyn arweinydd y grŵp eglwysig Cytûn, yn 77 oed.
Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Cytûn, sydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng enwadau a chrefyddau amrywiol, rhwng 1998 a 2006.
Cyn hynny bu'n weinidog mewn eglwysi'r Bedyddwyr yn Coventry, Sutton Coldfield a Sutton, Surrey.
Fe roddwyd teyrnged iddo gan ysgrifennydd cyffredinol presennol Cytûn, Aled Edwards.
"Roedd wedi llwyddo mewn ffordd cwbl ryfeddol i gael cymunedau ffydd Cymru at ei gilydd - cymunedau Hindŵaidd, Mwslimaidd, Iddewig ac eraill - i ddod i mewn i berthynas ac i fod yn gyfeillion i'w gilydd - a bod hwnnw wedi ei wreiddio yn y dynamig gwleidyddol newydd," meddai.
"Dyw e ddim yn anghyfarwydd i ni heddiw i gael pobl o'r gymuned hoyw fel mudiad Stonewall i fod gyfochrog â'r cymunedau ffydd.
"Mae hwnna, y ffordd unigryw Gymreig o wneud o, yn deillio o bersonoliaeth Gethin.
"Y trobwynt allweddol oedd ar ôl ymosodiad 9/11. Fe benderfynwyd bod yn rhaid i arweinwyr ffydd ddod at ei gilydd.
"Mae'n debyg mai doniau ac athrylith Gethin oedd yn gyfrifol am lwyddiant mawr hynny."