Rheolau hylendid newydd i fusnesau bwyd yn dod i rym
- Cyhoeddwyd

Mae rheolau newydd yn dod i rym dydd Llun sydd yn gorfodi busnesau i ddarparu gwybodaeth am hylendid bwyd.
Bydd yn rhaid i fusnesau sy'n gwerthu prydau parod argraffu datganiad dwyieithog ar eu bwydlenni yn cyfeirio cwsmeriaid at wefan sydd yn cofnodi eu sgôr hylendid.
Does 'na ddim rheidrwydd ar y busnesau yma i argraffu eu sgôr ar eu bwydlenni.
Mae'r busnesau yn cael sgôr yn ôl glendid eu prosesau paratoi a storio bwyd, yn ogystal â chyflwr eu hadeiladau a'u rheolaeth o brosesau diogelwch bwyd.
Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â gorfodi busnesau i argraffu eu sgôr ar eu bwydlenni oherwydd y gost ychwanegol pan fyddai'r sgôr yn newid.
