Achub myfyrwyr mewn dillad 'anaddas' o gopa yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Carnedd Llywelyn
Cafodd 13 o fyfyrwyr nad oedd wedi gwisgo dillad mynydda "addas" eu hachub oddi ar Eryri dros y penwythnos.
Fe wnaeth y myfyrwyr alw am gymorth am 16:15 ddydd Sadwrn ar ôl i un ohonynt gael panig wrth iddi ddechrau tywyllu ar fynydd Carnedd Llywelyn.
Roedd tîm achub mynydd gerllaw a bu modd eu hachub yn syth.
Yn ôl Chris Lloyd o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, roedd y myfyrwyr ond yn gwisgo dillad bob dydd - dillad oedd yn "gwbl anaddas" i fynydda.
Roedd y myfyrwyr yn rhan o grŵp cerdded ac ar fin cyrraedd copa'r mynydd pan ffoniwyd y gwasanaethau achub.
Dillad 'anaddas'
Dywedodd Mr Lloyd: "Roeddynt wedi dringo'r mynydd ar ddiwrnod braf - roedd y mynydd yn wyn gan eira ac roedd yr awyr yn las,"
Ond ychwanegodd fod nifer o'r cerddwyr wedi gwisgo'n gwbl anaddas ar gyfer copa'r mynydd gan fod y tymheredd ar y llethrau uchaf dipyn yn is nac ar y gwaelod.
Dim ond un fwyell iâ a oedd gan y grŵp rhyngddynt ac nid oedd gan yr un ohonynt gramponau - sef pigau arbennig i'w gosod ar esgidiau er mwyn peidio llithro yn yr iâ a'r eira.
"Yr oeddynt yn benderfynol o barhau gyda'r daith yn hytrach na throi'n ôl," meddai Mr Lloyd.
"Roeddynt yn hynod ffodus bod y tîm achub gerllaw."