Diffyg glendid yng ngwesty'r Big Sleep yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd gwesty'r Big Sleep ei agor yn 1999
Mae cwmni sy'n berchen ar westy ynghanol Caerdydd wedi cydnabod methiannau "annerbyniol" ar ôl i ymchwiliad gan un o raglenni'r BBC ddod o hyd i ystafelloedd brwnt.
Fe gwynodd nifer o westeion am Westy'r Big Sleep wedi i olion gwaed gael eu canfod ar y walydd.
Roedd yna hefyd sbwriel ar y llawr ac roedd yr ystafelloedd molchi yn llawn budreddi.
Fe ganfu y rhaglen X-Ray hefyd nad oedd y cwiltiau yn lân, bod llwydni ar y ffenestri a phryfed marw yn yr ystafell.
Mae'r gwesty, sydd bellach yn eiddo i gwmni Compass Hospitality, wedi addo y bydd y safon yn gwella.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer o gwsmeriaid wedi mynegi eu hanfodlonrwydd am gyflwr y gwesty wrth y BBC.
Fe dalodd Jan Jones, 58 o Borthcawl £68 i aros yn y gwesty fis Ionawr.
Pan gyrhaeoddodd ei hystafell roedd 'na lawer o sbwriel yno ac nid oedd y gwely wedi cael ei wneud.
"Ro'n i'n credu i gychwyn bod rhywun arall yn aros yn yr ystafell," meddai.

Yr ystafell a gafodd Jan Jones yng ngwesty'r Big Sleep
Ychwanegodd: "Roedd yna focsys bwyd gwag yno, hen boteli cwrw ac roedd y matres wedi'i ddadorchuddio a gydag olion drosto.
"Roedd yr ystafell molchi yn frwnt ac roedd yr arogl yn ofnadwy gan fod hen fwyd wedi'i adael yn yr ystafell. Roedd y cyflwr yn ofnadwy."
Wedi siarad â rhai fu'n aros yn y gwesty, fe fwciodd cyflwynydd X-Ray Omar Hamdi ystafell yn y Big Sleep - roedd y gwely wedi torri ac roedd olion ar y matres.

"Roedd 'na fudreddi ymhobman," dywedodd. "Roedd 'na hoel gwaed ar y wal, gwallt ar y dillad gwely, llwch tew ar y sgertins ac olion mewn dau o ddroriau'r cwpwrdd ger y gwely."
Mae'r Big Sleep wedi ymddiheuro ac wedi cydnabod nad oedd y safon yn dderbyniol.
Ychwanegodd llefarydd bod camau wedi'u cymryd i wella cyflwr yr ystafelloedd ac i ddelio gyda rheolaeth wael.
Dywedodd hefyd fod y cwmni yn hyderus y bydd cyflwr y gwesty yn newid unwaith y byddai'r gwaith ailwampio wedi digwydd.
Ychwanegwyd y bydd y cwsmeriaid a holwyd ar y rhaglen yn cael eu harian yn ôl.
Mae X-ray ar BBC One Wales am 19:30 nos Lun 28 Tachwedd.