Damwain lori Caerfarddon: 'Brêcs yn eithriadol o boeth'
- Cyhoeddwyd

O'r chwith uchaf, gyda'r cloc, Mitzi Steady, Phill Allen, Stephen Vaughan a Robert Parker
Mae achos llys wedi clywed bod brêcs y lori a wnaeth ladd pedwar o bobl yng Nghaerfaddon yn Chwefror 2015 yn "eithriadol o dwym" ar ôl y gwrthdrawiad.
Bu farw Mitzi Steady, Phill Allen, Stephen Vaughan a Robert Parker yn y gwrthdrawiad ar Lansdown Lane yn y ddinas.
Roedd Mr Allen a Mr Vaughan yn dod o Abertawe ac roedd Mr Parker yn dod o Gwmbrân.
Dim profion brêcs
Clywodd Llys y Goron Bryste hefyd nad oedd y lori wedi cael yr un o'r profion effeithiolrwydd brêcs angenrheidiol.
Mae gyrrwr y lori Phillip Potter yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus neu'n ddiofal.
Mae ei bennaeth yng nghwmni Grittenham Haulage Ltd, Matthew Gordon 30 oed o Dauntsey, a oedd yn gyrru y tu blaen i Mr Potter yn gwadu 14 trosedd.
Yn ogystal mae mecanig y cwmni Peter Wood, 55 oed o Brinkwork yn gwadu pedwar cyhuddiad.

Mae Phillip Potter (chwith), Peter Wood (canol) a Matthew Gordon (dde) wedi'u cyhuddo mewn perthynas â marwolaeth pedwar person
Yn ystod yr achos ddydd Llun bu Gary Ford o'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau - y DVLA- yn disgrifio pa mor "anhygoel o boeth" oedd brêcs y lori ar ôl iddo ei harchwilio.
Clywodd y llys hefyd fod Mr Ford wedi methu dod o hyd i'r un ddogfen berthnasol a oedd yn dangos bod y profion brêcs angenrheidiol wedi'u cynnal pan aeth e gyda'r heddlu i swyddfeydd Grittenham Haulage y diwrnod wedi'r ddamwain.
Yn gynharach yn yr achos dywedodd cyn-yrrwr i gwmni Grittenham Haulage Ltd ei fod e yn y gorffennol wedi profi nam ar y brêcs, diffygion trydanol a nam ar y pwysedd aer.
Yn ystod un digwyddiad dywedodd ei fod wedi teimlo pedal y brêc yn mynd yn syth i'r llawr wrth iddo geisio stopio'n sydyn y tu ôl i gar.
Yr wythnos ddiwethaf clywodd y llys Phillip Browne, a oedd yn byw yn Lansdown Lane, yn dweud bod y gyrrwr wedi dweud wrtho yn fuan wedi'r ddamwain: "Rwy'n credu fy mod wedi eu lladd nhw. Ro'n i'n dod lawr yr allt. Rhoddais fy nhroed ar y brêc a doedd dim yno."
Mae Mr Potter, 20 oed o Dauntsey, hefyd yn cael ei gyhuddo o achosi niwed difrifol i Karla Brennan a mamgu Mitzi, Margaret Rogers, trwy yrru'n beryglus.
Mae e'n gwadu 10 cyhuddiad i gyd. Mae'r achos yn parhau.