Cynnal adolygiad o bleidlais diffyg hyder Chwaraeon Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Paul Thomas ysgrifennu adroddiad beirniadol o weithgareddau Chwaraeon Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio adolygiad i'r digwyddiadau wnaeth arwain at bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Chwaraeon Cymru.
Fe wnaeth y gweinidog chwaraeon, Rebecca Evans wahardd gweithrediadau bwrdd Chwaraeon Cymru yr wythnos diwethaf yn dilyn pryderon am y ffordd oedd yn cael ei redeg.
Fe wnaeth adroddiad gan y cadeirydd, Paul Thomas ddatgelu bod Chwaraeon Cymru mewn "perygl o aros yn ei unman" a'i fod wedi gwario swm "annerbyniol" ar y bwrdd.
Dywedodd Ms Evans na fyddai adroddiad Mr Thomas yn cael ei gynnwys fel rhan o adolygiad y llywodraeth.
Cylch gorchwyl yr adolygiad fydd 'archwilio ac adrodd ar amgylchiadau, y cefndir a phroblemau sy'n gysylltiedig â'r bleidlais ddiweddar o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd gan Fwrdd Chwaraeon Cymru' meddai datganiad Rebecca Evans.
Fe fydd hefyd yn 'archwilio ac adrodd ar drefniadau llywodraethu Bwrdd Chwaraeon Cymru' ac mae disgwyl y bydd yn para am wyth wythnos.