Edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf canolfan Pontio ym Mangor
Flwyddyn ers i ganolfan Pontio agor ym Mangor, cyfarwyddwr artistig y ganolfan, Elen ap Robert, sydd yn pwyso a mesur llwyddiant y 12 mis cyntaf.
Cafodd 76,597 o docynnau eu gwerthu hyd at 29 Tachwedd - a'r mwyafrif o'r rhai hynny ar gyfer ffilmiau yn y sinema.
Nia Cerys fu'n ei holi ar ran Newyddion 9.