James Hook yn dychwelyd i'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae Hook wedi ennill 81 cap i Gymru
Bydd James Hook yn ail-ymuno â'r Gweilch y tymor nesaf ar ôl cyfnod yng Nghaerloyw.
Mae Hook wedi arwyddo cytundeb tair blynedd, ac mi fydd yn symud yn ôl i Gymru erbyn dechrau'r tymor nesaf.
Fe adawodd Hook y Gweilch yn 2011 wrth iddo symud i Perpignan yn Ffrainc, cyn symud i gynghrair Lloegr.
Dywedodd Hook: "Mae hwn yn dda i mi yn bersonol, ac mae'n iawn i fy nheulu hefyd i ddychwelyd adre.
"Mae'n bwysig fy mod yn gorffen y tymor yn dda gyda Chaerloyw - maen nhw wedi bod yn dda iawn i mi."
Mae Hook wedi ennill 81 cap i Gymru, fel maswr, canolwr a chefnwr.