Gwahardd gyrrwr tacsi am wrthod siwrne fer i ddynes anabl
- Cyhoeddwyd

Mae Barbara Stensland yn dioddef o gyflwr MS
Mae gyrrwr tacsi o Gaerfyrddin wedi cael ei atal rhag gweithio am saith diwrnod, am wrthod mynd â dynes anabl i westy gan ddweud nad oedd y siwrne yn ddigon hir.
Roedd Barbara Stensland, 43, o Gaerdydd, yn ymweld â Chaerfyrddin ar 5 Awst ar gyfer cyfarfod o Gymdeithas MS.
Pan geisiodd Ms Stensland, sydd â chyflwr MS, gael tacsi o orsaf rheilffordd y dref i'r gwesty oedd yn cynnal y cyfarfod - pellter o tua 500 llathen - fe wnaeth y gyrrwr David Maynard wrthod y cais.
Dywedodd Ms Stensland wrth bwyllgor trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod hi wedi cymryd bron i hanner awr i gerdded i'r cyfarfod, a hynny ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Dywedodd: "Fe es i at y tacsi cyntaf yn y rhes dacsi y tu allan i'r orsaf, a dweud lle oeddwn am fynd.
"Fe wnaeth o chwerthin. Roedd e'n meddwl bod fi'n jocan oherwydd fy mod yn gwybod nad oedd e'n siwrne hir.
"Pan ddwedes i mod i o ddifri' ac am gael mynd i'w dacsi, dywedodd: 'Na, dwi ddim am eich cymryd.'
"Felly fe wnaeth o bwyntio at gyfeiriad y lleoliad a dweud wrthyf am gerdded."
Ystyried gwaharddiad hirach
Mewn datganiad dywedodd Mr Maynard, nad oedd yn bresennol yn y gwrandawiad, fod yr honiadau yn rhai "gwbl ddi-sail" a bod Ms Stensland wedi dweud wrtho ei bod hi am gerdded "gan ei bod yn ddiwrnod mor braf".
Penderfynodd y pwyllgor trwyddedu fod y gyrrwr wedi gwrthod cais Ms Stensland, a'i fod yn ymwybodol o'i chyflwr.
Roedd y cyngor wedi ystyried atal ei drwydded am gyfnod hirach.
Fe wnaethant benderfynu yn erbyn hynny oherwydd bod Ms Stensland wedi dweud nad oedd iddi am i'r gyrrwr wynebu cyfnod o galedi, yn enwedig yn yr wythnosau cyn y Nadolig.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr bod Mr Maynard wedi penderfynu derbyn y dyfarniad ac na fydd yn apelio'r penderfyniad.
Mewn ymateb i'r dyfarniad dywedodd Lynne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru bod y sefydliad "wedi'u brawychu gydag agwedd y gyrrwr tacsi tuag at Barbara".
"Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn fater hir dymor i bobl ag MS yng Nghymru," meddai.
"Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau bod agweddau negyddol o'r fath yn newid.
"Rydyn ni'n falch gyda'r penderfyniad yma. Byddai Cymdeithas MS Cymru yn hapus iawn i roi cyngor i'r gyrrwr tacsi ac unrhyw gwmni arall ar sut allen nhw wella'u gwasanaeth cwsmeriaid i bobl yn byw ag MS."