Llongwr yn diolch am achubiaeth ger Ynys Môn yn 1966
- Cyhoeddwyd

Y Nafsiporos cyn i'r badau achub gyrraedd
50 mlynedd ers i griw llong o wlad Groeg gael eu hachub gan fadau achub o Ynys Môn, bydd un o forwyr y llong yn diolch i'r rhai a'i achubodd.
Ar 2 Rhagfyr 1966 aeth criw y Nafsiporos i drafferthion mewn storm oddi ar arfordir yr ynys, ac roedd y llong mewn perygl o ddryllio ar y creigiau.
Roedd gwyntoedd 100 milltir yr awr yn hyrddio ar y pryd, a'r llong mewn tonnau 35 troedfedd o uchder.
Yng nghanol y tywydd garw roedd y criw wedi colli pob gobaith am achubiaeth, ond fe ddaeth neges ar y radio yn dweud: "Mae'n Nadolig. Fe fyddwch yn gweld eich gwragedd a'ch plant unwaith eto."
Roedd y neges wedi ei hanfon gan griw bad achub o Gaergybi, oedd, gyda chriw o Foelfre, ar eu ffordd i achub y 15 Groegwr.

Dic Evans gyda'r dynion yr oedd ei griw wedi eu hachub yn 1966
Cafodd criw y Nafsiporos eu hachub dros gyfnod o 24 awr, ac fe dderbyniodd yr 17 aelod o griwiau gwirfoddol y badau achub fedalau am eu hymdrechion.
Hyd heddiw, dyma un o'r digwyddiadau mwyaf nodedig yn hanes gwasanaeth yr RNLI.
Nawr, mae un o longwyr y Nafsiporos, Anestis Rokopoulos, sy'n 73 oed ac oedd yn ail swyddog ar y llong y diwrnod hwnnw, wedi penderfynu diolch i'r rhai a'i achubodd.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaergybi ddydd Gwener er mwyn i Mr Rokopoulos ddiolch i'r dynion ddaeth i gynnig cymorth y diwrnod hwnnw yn 1966.

Anestis Rokopoulos (canol) gyda'i wraig a'i wyres, yn sefyll ger Dion Theodorou (dde). Cafodd ewythr Mr Theodorou ei achub o'r Nafsiporos hefyd

Pump o griw bad achub Caergybi oedd yn rhan o'r ymdrech i achub y Groegiaid