Miliwnydd yn cyffesu iddo ladd mewn fideo
- Cyhoeddwyd

Clywodd llys fod miliwnydd wedi cyffesu iddo dagu ei gariad oedd yn gweithio fel cymar personol gan ddweud wrth yr heddlu: "Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wneud hynny - roeddwn yn ei charu".
Mae Peter Morgan, 54, o Lanelen, Sir Fynwy, wedi ei gyhuddo yn Llys y Goron Casnewydd o Lofruddio Georgina Symonds, 25. Mae'n gwadu'r cyhuddiad.
Cafodd fideo o Mr Morgan yn cael ei holi gan heddweision ei ddangos i'r rheithgor.
Yn y fideo fe ddywedodd: "Allai ddim cymryd hyn. Rhai i mi ddweud wrtho chi. Fe wnes i ei thagu y bore ma."
Ychwanegodd: "Roeddwn yn ei charu hi cymaint. Rwyf i am ddweud y gwir wrtho chi am yr hyn ddigwyddodd."
Roedd Ms Symonds, o ardal Allt-yr-ynn o Gasnewydd, yn derbyn rhwng £7,000 a £10,000 y mis gan Mr Morgan i weithio fel cymar personol iddo.
Ond clywodd y rheithgor ei fod wedi "gwylltio" wedi iddo glywed am ei chynllun i symud i Lundain i weithio.
Cafodd y tad i ddau o blant ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ym mis Ionawr pan ofynnwyd iddo os yr oedd wedi lladd Miss Symonds.
Clywodd y llys ei fod wedi ateb: "Do. Dwn i ddim pam wnes i hynny."
Ychwanegodd nad oedd "yn gwybod beth oedd am ei wneud" ac "os oedd am ei dychryn".

Yn y fideo fe ddisgrifiodd Mr Morgan sut y gwnaeth ladd Miss Symonds gan guddio ei chorff yn ei gerbyd Porsche Cayenne.
Roedd Georgina Symonds wedi bod yn byw mewn byngalo ar dir Castell Pencoed, oedd yn eiddo i Mr Morgan.
Esboniodd Mr Morgan yn y fideo: "Fe nes i ei rhoi yng nghefn fy nghar. Fe ddaeth y ddau lanc sy'n gweithio i mi i lawr."
"Doeddwn i heb gynllunio'n iawn yr hyn yr oeddwn yn mynd i'w wneud. Fe es i nôl i'r fferm a rhoi ei chorff tu ôl i fainc weithio a mynd yn ôl i'r gwaith.
"Y peth pryderus ydw nad oeddwn yn teimlo'n euog ar y pryd."
Mae Mr Morgan yn gwadu llofruddio o achos nad oedd yn llawn gyfrifol o ganlyniad i'w gyflwr Asperger.
Mae'r achos yn parhau.

Roedd Miss Symonds yn byw ar dir Castell Pencoed