Niwl rhewllyd yn achosi oedi i awyrennau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae niwl rhewllyd wedi achosi oedi i nifer o hediadau ym Maes Awyr Caerdydd ac mae'r heddlu wedi rhybuddio teithwyr i gymryd gofal.
Cafodd awyren KLM o Amsterdam i Gaerdydd ei dargyfeirio i Fryste am 10:00 ddydd Iau, a bu'n rhaid i awyren o Ynys Môn lanio yng Nghaerloyw.
Bu oedi am awr i awyren Aer Lingus o Ddulyn yn ystod y dydd hefyd.
Roedd dim ond modd gweld hyd at 400m (1,312 troedfedd) meddai'r awdurdodau.
Cafodd dwy awyren arall eu dargyfeirio o Gaerdydd - cafodd un awyren Flybe o Faro, Portugal ei hanfon i Birmingham, ac awyren o Amsterdam ei chyfeirio i Fryste.
Canslo hediadau

Nos Iau mae nifer o hediadau o Gaerdydd i Gaeredin, Glasgow, Amsterdam, Llundain ac Ynys Môn, wedi eu canslo, ac mae awyrennau o Munich a Lanzerote wedi eu dargyfeirio i Birmingham.
Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Caerdydd fod y wybodaeth am unrhyw newidiadau i deithiau ar gael ar eu gwefan.
Yn y cyfamser mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio gyrwyr am berygl niwl rhewllyd, yn enwedig ym Mro Morgannwg.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am niwl yn effeithio ar rannau eang o dde a gorllewin Cymru.
Mae disgwyl i'r niwl fod yn drwchus nos Iau, gyda niwl rhewllyd yn datblygu mewn mannau drwy gydol y nos.